Ers i’r Cynllun Seibiant Byr gael ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn 2022, mae’n ffynhonnell hanfodol o gymorth i ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac mae eisoes wedi cyrraedd 50,000 a mwy o bobl, gan helpu gofalwyr i fwynhau amser a lle ystyrlon iddyn nhw eu hunain.
Er mwyn deall pa mor dda mae’r cynllun yn gweithio, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gomisiynu gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Bangor.
Mae’r gwerthusiad yn archwilio effeithiolrwydd, cyrhaeddiad, effaith a chynaliadwyedd hirdymor‑ y cynllun, gan ddefnyddio adborth pwerus gan ofalwyr sydd wedi cael seibiant byr‑.
Fe ges i heddwch, ac amser i mi fy hun... rwy’n teimlo’n fwy parod i ddychwelyd at y gofalu nawr.
Gofalwr gyda Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot
Mae'r seibiannau byr wedi rhoi amser i ffwrdd i ofalwyr, ac maent wedi rhoi ymdeimlad newydd o gydbwysedd, llesiant a chydnabyddiaeth. Boed drwy deithiau cerdded tawel, gweithdai creadigol, amser gyda ffrindiau neu amser i anadlu, mae gofalwyr yn dweud wrthym fod yr adegau hyn yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon.
Mae llawer yn dweud eu bod yn teimlo:
Er mai prif bwrpas y cynllun yw cefnogi gofalwyr di-dâl, mae ei fanteision yn bellgyrhaeddol – gan gryfhau teuluoedd, cymunedau, sefydliadau a’r economi leol.
Teuluoedd a Pherthnasoedd Cryfach: Mae gofalwyr yn dychwelyd i’w rolau gydag egni newydd, gan leddfu pwysau gartref a chryfhau perthnasoedd.
Hybu Busnesau a Chymunedau Lleol: Mae busnesau bach, gweithwyr llawrydd a sefydliadau wedi cael cyfleoedd newydd drwy ddarparu seibiant creadigol yn lleol.
Gwell Iechyd a Gwydnwch i Ofalwyr: Mae gofalwyr yn dweud bod eu llesiant meddyliol a chorfforol wedi gwella, a’u bod yn aml yn parhau ag arferion cadarnhaol ymhell ar ôl eu seibiant.
Gwell Mynediad at Gymorth: Mae darpariaeth hyblyg wedi helpu partneriaid i gysylltu â grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, yn ogystal ag addasu cymorth i ddiwallu anghenion lleol.
Lleihau’r Pwysau ar Wasanaethau: Drwy helpu gofalwyr i gadw’n iach ac osgoi argyfwng, mae’r cynllun yn lleihau’r galw ar iechyd a gofal cymdeithasol.