Newyddion a diweddariadau o'r Cynllun Seibiannau Byr

 

Ni chafodd tri chwarter y gofalwyr ifanc yng Nghymru a ddefnyddiodd cynllun seibiannau newydd yn 2024 unrhyw saib o gwbl yn y flwyddyn flaenorol

Cyn Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, mae gofalwyr ifanc o bob rhan o Gymru yn galw ar Aelodau’r Senedd i weithredu a rhoi seibiannau rheolaidd iddynt o ofalu.

Mae aelodau o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sydd wedi cael mynediad at seibiannau drwy’r Cynllun Seibiannau Byr, yn dweud bod cael mynediad at seibiannau yn hanfodol er mwyn iddynt allu cynnal eu lles corfforol a meddyliol.

Datgelodd canfyddiadau interim o werthusiad annibynnol Prifysgol Bangor o’r Cynllun nad oedd tri chwarter (75%) o ofalwyr ifanc a oedd yn cael egwyl drwy’r fenter wedi cael seibiant o unrhyw wasanaeth arall yn ystod y 12 mis blaenorol.

O’r 24,000 o ofalwyr di-dâl a gafodd seibiant drwy’r Cynllun Seibiannau Byr yn ei flwyddyn gyntaf, roedd bron i 4,000 yn ofalwyr ifanc, ac nid oedd llawer ohonynt erioed wedi cael seibiant ystyrlon o ofalu o’r blaen.

Dywedodd Kate Cubage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Mae’n ddyletswydd arnom i’n gofalwyr ifanc sicrhau eu bod yn gallu cael seibiant ystyrlon i helpu i’w cynnal yn eu rôl ofalu, eu cefnogi i gyflawni eu dyheadau a gofalu am eu hiechyd meddwl a’u lles."

Côr Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn taro'r nodyn cywir

Cymerodd Côr Bridgend Carers Centre ran yn nigwyddiad diweddar Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i nodi mwy na 50 mlynedd o effaith. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn y Senedd ddechrau mis Chwefror, yn dathlu rhwydwaith sefydliadau gofalwyr lleol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Roedd y digwyddiad yn cydnabod yr amrywiaeth o gefnogaeth a gynigir gan sefydliadau gofalwyr lleol, fel cymorth i ofalwyr ifanc, seibiannau drwy'r Cynllun Seibiannau Byr, cefnogaeth i leddfu tlodi a brofir gan ofalwyr drwy ddarparu'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr, a Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Daeth y digwyddiad â chynrychiolwyr o'r deg sefydliad gofalwyr lleol ledled Cymru sy'n rhan o rwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr at ei gilydd. Gyda'i gilydd, cyrhaeddodd y sefydliadau gofalwyr lleol hyn bron i 100,000 o ofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Sarah Jarvis, Prif Swyddog Gweithredol Bridgend Carers Centre, "Roedden ni wrth ein bodd i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn gan ein bod ni’n gallu gweld yr effaith y mae'r Cynllun Seibiannau Byr yn ei chael. Mae'r côr yn rhoi cyfle i'n gofalwyr di-dâl gael seibiant byr o'u rôl ofalu, i gymryd rhan mewn gweithgaredd hwyl sy'n canolbwyntio ar eu lles. Mae ’na gymaint o fanteision, o leihau unigrwydd i ffurfio cysylltiadau a chyfeillgarwch cadarnhaol ag eraill sydd yn yr un sefyllfa."

Roedd y côr yn wych ac, o dan arweiniad Meistr Côr Tenovus, Joshua Jones, gwnaethant ddiddanu’r gynulleidfa gydag amrywiaeth o ganeuon y mae'r côr wedi bod yn gweithio arnyn nhw dros y blynyddoedd - gan gynnwys yr hen ffefryn, 'The Rose'.

Dau gynllun gofalwyr hanfodol yng Nghymru i’w hariannu am flwyddyn ychwanegol

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £5.25 miliwn pellach i barhau â’r Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cymorth Gofalwyr am 12 mis ychwanegol, tan ddiwedd mis Mawrth 2026.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, “Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’r rhaglenni hanfodol hyn gyda sicrwydd o gyllid am flwyddyn arall. Bydd y cyllid hwn yn galluogi sefydliadau gofalwyr lleol a phartneriaid darparu i gyrraedd miloedd yn fwy o ofalwyr di-dâl gyda seibiant mawr ei angen o ofalu a chyda diogelwch rhag pen pellaf tlodi hyd at 2026.”


 

Cynllun Seibiannau Byr yn rhagori ar y targed

Yn ystod chwe mis cyntaf 2024/25, cafodd dros 4,000 o ofalwyr, nad oeddent wedi defnyddio'r rhaglen o'r blaen, seibiant byr drwy rwydwaith partneriaid darparu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. O ganlyniad, mae bron i 17,000 o ofalwyr di-dâl bellach wedi elwa o'r cynllun ers iddo gael ei lansio yn 2022, sy'n golygu ei fod eisoes wedi rhagori ar y targed i gefnogi 14,000 o ofalwyr di-dâl erbyn 31 Mawrth 2025. Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru bellach wedi darparu grantiau gwerth bron i £4 miliwn i rwydwaith o dros 30 o fudiadau ledled Cymru ers sefydlu'r cynllun.

Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, "Rydyn ni wedi gweld beth mae cymryd seibiant byr yn gallu ei wneud i fywyd gofalwr. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i rwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol eisoes wedi cefnogi bron 17,000 o ofalwyr di-dâl i gymryd seibiant mawr ei angen. Diolch i holl bartneriaid y rhwydwaith, mudiadau gofalwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i wneud y rhaglen Seibiant Byr yn gymaint o lwyddiant gan gefnogi miloedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru."

Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol yn cwrdd â gofalwyr di-dâl yng Nghynhadledd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Roedd sefydliadau gofalu a gofalwyr di-dâl eraill yn bresennol yn y gynhadledd yng Nghlwb Criced Sir Morgannwg yng Nghaerdydd, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Tynnodd y gynhadledd sylw at effaith y Cynllun Seibiannau Byr, sydd wedi rhoi cyfle i dros 13,000 o ofalwyr di-dâl gymryd seibiant byr o’u rôl gofalu.  

Cynllun hyblyg sy’n ymateb i anghenion y gofalwyr

Ym mlwyddyn gweithredol gyntaf y cynllun, dewisodd 17% o'r gofalwyr di-dâl gael noson i ffwrdd, dewisodd 14% gael diwrnod allan, dewisodd 26% gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, a dewisodd 43% gael meicro-grant.

Dywedodd Liz Wallis, Arweinydd Rhaglen Cynllun Seibiant Byr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, “Cafodd y cynllun ei greu mewn modd oedd yn caniatáu hyblygrwydd, gan alluogi ein partneriaid i helpu’r gofalwyr i ddewis seibiant sy’n gweddu i’w sefyllfa ofalu nhw orau. Mae hi’n braf iawn cael clywed am yr holl wahanol seibiannau y mae’r gofalwyr wedi eu cael, ac mae’n dangos bod y cynllun yn un hyblyg ac amlbwrpas.”

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn dyfarnu cyllid i bedwar mudiad i ddarparu’r Cynllun Seibiant Byr yn ne-ddwyrain Cymru

Ar ôl i’r mudiad i ofalwyr, Care Collective, gau, roedd llai o gyfleoedd ar gael i ofalwyr di-dâl gael seibiant byr drwy’r Cynllun Seibiant Byr yn ne-ddwyrain Cymru. Pan welwyd bod bwlch yn y ddarpariaeth, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wahodd mudiadau i wneud cais am gyllid i ddarparu’r Cynllun Seibiant Byr ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd. O ganlyniad i’r broses, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi dyfarnu £169,835 i NEWCIS, Fforwm Cymru Gyfan, y Bartneriaeth Awyr Agored ac Age Connects Torfaen i gefnogi gofalwyr di-dâl â chyfleoedd seibiant byr tan ddiwedd mis Mawrth 2025.

Dywedodd Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, “Roedd yn sefyllfa bryderus iawn i ofalwyr di-dâl yn ne-ddwyrain Cymru ar ôl i’r Care Collective gau. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig rhywfaint o gymorth drwy ailddyrannu cyllid yn gyflym i bedwar mudiad i ddarparu seibiant byr i ofalwyr yn y rhanbarth hwn.”

Mae’r pedwar mudiad eisoes yn darparu gweithgareddau seibiant byr drwy’r cynllun a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn eu galluogi i gefnogi gofalwyr yn ne-ddwyrain Cymru. Gall gofalwyr di-dâl fynd ar wefan y Cynllun Seibiant Byr i ddod o hyd i gyfleoedd seibiant byr yn eu hardal.

Y Cynllun Seibiannau Byr yn helpu dros 600 o ofalwyr di-dâl yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Mae Interlink Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, wedi treialu prosiect i sicrhau bod gofalwyr yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn gallu cael mynediad at y Cynllun Seibiannau Byr. 

 

 

Canmol y Cynllun Seibiannau Byr am ei gefnogaeth i ofalwyr

Roedd bron i hanner y gofalwyr a oedd yn elwa o’r Cynllun Seibiannau Byr yn cael cefnogaeth am y tro cyntaf gan y sefydliadau gofalu a oedd yn darparu’r seibiannau. O’r 11,000 o ofalwyr di-dâl a gymerodd ran yn y Cynllun Seibiannau Byr yn 2023/24, roedd dros 5,000 ohonyn nhw’n newydd i’r sefydliadau hyn.

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn helpu dros 11,000 o ofalwyr di-dâl i gymryd seibiant byr


Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cefnogi dros 11,000 o ofalwyr di-dâl i gymryd seibiant byr o’u cyfrifoldebau gofalu. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae wedi dyfarnu bron i £2 filiwn i elusennau a sefydliadau’r Trydydd Sector ledled Cymru i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau drwy’r Cynllun Seibiannau Byr. 

Cylchlythyr y Cynllun Seibiannau Byr
 

Mae Cylchlythyr y Cynllun Seibiannau Byr yn rhannu storïau er mwyn amlygu effaith y cynllun ac mae’n darparu gwybodaeth berthnasol, arfer da a newyddion.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences