Seibiant byr i gael hwyl a rhyddid
Mae Jack yn 11 oed ac yn byw yn Abertawe gyda’i fam a Sky, Labrador bach du sy’n bump oed. Mae’r teulu’n agos iawn, ond mae Jack wedi gorfod tyfu i fyny’n gynt na’r rhan fwyaf o blant yr un oedran ag ef.
Mae mam Jack yn byw gyda nifer o gyflyrau iechyd difrifol sy’n effeithio ar ei chalon, ei iau, ei choluddyn a’i harennau. Jack yw ei phrif ofalwr o ddydd i ddydd, ac mae’n gwneud llawer i gadw’r aelwyd i fynd. Mae’n gofalu am Sky, yn gyfrifol am dasgau fel golchi dillad a hwfro, ac mae’n helpu gyda thasgau sy’n anodd yn gorfforol, fel cario siopa neu gario logiau ar gyfer y tân.



Mae Jack hefyd yn rhoi cymorth i'w fam mewn ffyrdd personol: mae’n ei helpu i wisgo, yn cadw golwg ar ei meddyginiaeth, ac yn paratoi prydau bwyd a phaneidiau o de. Mae’n gwneud hyn oll ar ben mynd i’r ysgol, gwneud gwaith cartref a gweld ei ffrindiau — ac ar adegau, mae’r pwysau’n aruthrol.
Weithiau dwi’n teimlo dan straen... mae pethau bach yn peri gofid i mi a dwi’n teimlo’n flin iawn. Alla i ddim rheoli fy emosiynau.
Jack
Mae helpu ei fam yn rhoi ymdeimlad cryf o falchder i Jack. Ond fel llawer o ofalwyr ifanc, ochr emosiynol gofalu sydd anoddaf iddo. Mae’n cyflawni cyfrifoldebau oedolion cyn ac ar ôl ysgol, ac mae poeni am iechyd ei fam drwy'r amser yn gallu ei gwneud yn anodd iddo fwynhau bod yn blentyn.
Diolch i’r Cynllun Seibiant Byr, mae Jack wedi gallu camu i ffwrdd o’i gyfrifoldebau gofalu a mwynhau dau gyfnod o seibiant gydag Elusen Blant HoneyPot yn nhŷ Pen y Bryn yng Nghymru. Dim ond 10 oed oedd Jack pan ddaeth i ymweld â Phen y Bryn gyntaf.
I Jack, mae’r cyfnodau hyn o seibiant yn fwy na gwyliau, maent yn gyfle i fod yn fachgen ifanc eto. Mae’n lle diogel a chefnogol, ac yn rhoi cyfle prin i oedolion ofalu amdano ef.
O'r eiliad y cyrhaeddodd Jack, roedd y staff wedi sylwi mor gyflym yr oedd yn setlo. Adeiladodd berthnasoedd da gyda gofalwyr ifanc eraill, yn ogystal â’r oedolion sydd yno i’w helpu. Dangosodd Jack yr un caredigrwydd ag y mae’n ei ddangos gartref, roedd bob amser yn barod i helpu eraill, ond fe ddysgodd hefyd ei bod yn iawn gofyn am gysur a sicrwydd.
Roeddwn i wrth fy modd â phob un rhan ohono... mae’n fy helpu i fod yn fi - oherwydd anaml rydw i’n cael bod yn fi.
Jack
Mae bod yn yr awyr agored wedi helpu Jack i ymlacio’n llwyr. Roedd wrth ei fodd â phêl-fasged a phêl-droed, ac fe dreuliodd ei amser yn rhedeg o gwmpas ac yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio ei egni. Roedd y staff yn gweld sut roedd cael trefn, cysur a chysondeb yn ei helpu i deimlo’n ddiogel ac i ymlacio, rhywbeth y mae llawer o ofalwyr ifanc yn cael trafferth ei wneud.
Yn Nhŷ Pen y Bryn, roedd Jack yn gallu canolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i blant ei oedran ef: nofio, chwarae gemau, chwerthin, a gwneud ffrindiau gyda gofalwyr ifanc eraill sydd yn deall ei fyd.
Mae gwybod bod Jack yn rhywle diogel ac yn cael amser da yn gwneud byd o wahaniaeth. Mae elusen Honeypot yn rhoi’r cyfle i’r ddau ohonom gael seibiant ac i ganolbwyntio arnom ni ein hunain am unwaith.
Mam Jack

Mae cael amser i ffwrdd wedi helpu Jack i fagu hyder ac i feithrin gwydnwch emosiynol. Roedd sylweddoli y byddai ei fam yn iawn tra’r oedd o wedi mynd yn golygu y gallai fwynhau cael seibiant heb boeni.
Bob tro y bydd Jack yn dod adref, mae’n fwy hamddenol, ac mae wedi adfywio sy’n golygu ei fod yn fwy abl i ymdopi â’r heriau dyddiol sy’n dod law yn llaw â bod yn ofalwr ifanc.
Dwi’n meddwl y bydd hi’n haws gofalu am mam ar ôl cael cyfnod o seibiant llawn hwyl.
Jack
Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn cynnig rhywbeth eithriadol o brin i Jack: lle i fod yn blentyn - heb gyfrifoldebau, disgwyliadau, na phwysau.
Mae’r seibiant yn adfer ei egni, yn cryfhau ei hyder, ac yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arno i barhau i ddarparu gofal hanfodol bob dydd.