Seibiannau byr i ofalwyr gan Credu

post image 1

Cael cyfle i gymryd anadl 

I lawer o ofalwyr, mae’n anodd iawn cael pum munud bach. Mae’r cyfrifoldebau’n ddi-baid, yr anghenion yn gymhleth, ac mae hyd yn oed cynllunio trip bach yn gallu teimlo’n llethol. Nod rhaglen Seibiannau Byr Credu yw newid hynny, a chreu adegau lle mae gofalwyr a theuluoedd yn gallu camu’n ôl o bwysau dydd i ddydd, a theimlo bod ganddyn nhw gefnogaeth.

Gyda chymorth y Cynllun Seibiant Byr, roedd Credu wedi darparu gweithgareddau ar draws y Gogledd, Ceredigion a Phowys rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026. Yn ystod y cyfnod hwnnw, llwyddodd dros 1,100 o ofalwyr – gan gynnwys dros 760 o ofalwyr ifanc – i gael seibiant oedd yn cyd-fynd â’u bywydau nhw.

Cymorth i gael diwrnodau allan ac i greu atgofion ar y cyd

Roedd diwrnodau allan i fannau fel Gelli Gyffwrdd, Fferm Park Hall a Fferm Folly yn gyfle i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd allan o’r cartref – rhywbeth nad ydyn nhw’n gallu ei fforddio neu ei reoli heb gymorth yn aml.

Y cymorth ar gyfer y gweithgaredd oedd y gwahaniaeth: help i archebu, talu am gludiant, staff cyfarwydd a sicrwydd ar y diwrnod. I deuluoedd sy’n byw gyda gorbryder, anghenion ychwanegol neu sefyllfaoedd gofalu cymhleth, roedd hyn yn troi profiad a allai achosi straen yn brofiad gwirioneddol gadarnhaol.

Dywedodd un rhiant:

Dydw i erioed wedi teimlo mor hamddenol ar ddiwrnod allan.

 

Rhoi hyder a chysylltiadau i ofalwyr ifanc

I ofalwyr ifanc, roedd seibiant byr yn amser iddyn nhw, a neb arall. Roedd Credu wedi darparu diwrnodau gweithgareddau, teithiau a seibiannau preswyl – fel sglefrio iâ a chanolfannau chwarae meddal, yn ogystal ag ystafelloedd dianc ac arhosiad preswyl yng Nghaerdydd.

Roedd y seibiannau hyn wedi helpu gofalwyr ifanc i ymlacio, i gwrdd â phobl eraill â phrofiadau tebyg, ac i fagu hyder. Gwelodd y staff ffrindiau newydd yn ffurfio a phobl ifanc dawelach yn dechrau dod allan o’u cragen.

Dywedodd un fam wrth sôn am ei phlentyn: "Mae ganddi hi ffrindiau nawr. Dyw hi ddim yn teimlo mai hi yw’r unig un erbyn hyn.”

Yn ôl Credu, “Rydyn ni wedi gweld bod seibiant addas yn gallu bod yn borth i gymorth parhaus, gan gryfhau gwydnwch tymor hir i’r gofalwr ifanc ac i’r teulu ehangach.”

Seibiant i gael gorffwys

Doedd pob gofalwr ddim yn dymuno cael diwrnod prysur allan. Roedd llawer wedi dweud wrth Credu eu bod yn awyddus i gael profiad tawelach, haws ei reoli.

Felly darparodd Credu ddiwrnodau llesiant – gan gynnwys sesiynau sba a chinio, a gweithgareddau creadigol – wedi’u cynllunio i alluogi gofalwyr i orffwyso’n hamddenol. Roedd gofalwyr wedi disgrifio’r diwrnodau hyn fel rhai derbyniol iawn, heb bwysau, a oedd yn canolbwyntio ar eu llesiant nhw.

Dywedodd un gofalwr, yn syml iawn:

Roedd e’n rhywbeth i fi, heb deimlo’n euog.

 

Yn ôl Credu: “Roedd y diwrnodau llesiant hyn wedi helpu oedolion sy’n ofalwyr – llawer ohonyn nhw yn ofalwyr hŷn – i gael amser ystyrlon i ffwrdd o’u rolau gofalu. Mae’r adborth yn dangos effaith gadarnhaol gryf ar lesiant emosiynol, hyder a theimlad o gysylltiad y gofalwyr. Dywedodd y gofalwyr eu bod yn teimlo eu bod wedi ymlacio, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddyn nhw nerth newydd, gan dynnu sylw at ba mor brin yw’r cyfleoedd i flaenoriaethu eu hanghenion eu hunain.

“Roedd bod mewn grŵp wedi helpu i leihau unigrwydd. Dywedodd nifer o’r gofalwyr cymaint roedden nhw wedi elwa ar dreulio amser gyda phobl eraill a oedd yn “deall” eu sefyllfa. Dywedodd un gofalwr ei fod yn teimlo bod “croeso i fi a fy mod yn cael fy ngweld a fy nghlywed”, a dywedodd un arall bod y diwrnod wedi gwneud gwahaniaeth amlwg i’w hwyliau, ei iechyd a’i hyder. Clywsom hefyd fod y diwrnodau llesiant hyn wedi annog gofalwyr i feddwl go iawn am sut gallan nhw barhau i ofalu amdanyn nhw eu hunain.”

Cip ar ddiwrnod llesiant Credu

Gofalu am y gofalwyr ym Mhowys

Dywedodd y gofalwyr eu bod yn teimlo’n fwy pwyllog, eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn fwy hyderus – wedi magu nerth newydd i barhau i ofalu oherwydd bod rhywun wedi rhoi o’u hamser i ofalu amdanyn nhw hefyd.

Effaith am fwy na dim ond diwrnod

Gwelodd Credu fod effaith seibiant byr yn aml yn parhau ymhell ar ôl i’r gweithgaredd ddod i ben. Roedd gofalwyr wedi cadw mewn cysylltiad, wedi meithrin cyfeillgarwch, wedi magu hyder, ac roedd llawer wedi cymryd eu camau cyntaf at gymorth ehangach.

Tarodd un gofalwr yr hoelen ar ei phen:

Dwi’n teimlo bod croeso i fi a fy mod yn cael fy ngweld a fy nghlywed.

 

Pam mae hyn yn bwysig

Mae gwaith Credu yn dangos sut mae seibiant byr yn gallu bod yn wirioneddol ataliol pan fydd yn seiliedig ar yr hyn y mae gofalwyr yn dweud sydd ei angen arnyn nhw. Drwy leihau rhwystrau a chynnig gwahanol fathau o seibiannau ar gyfer gwahanol fywydau, helpodd Credu ofalwyr i orffwys, i ailgysylltu ac i deimlo’n llai unig – gan gryfhau eu gallu i barhau i ofalu.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences