Yn ystod Wythnos y Gofalwyr eleni, rydym ni’n dathlu pŵer y gymuned.
Mae thema 2026, Adeiladu Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ofalwyr, yn ymwneud â chreu lleoedd i ofalwyr di-dâl deimlo eu bod yn cael eu cydnabod, eu cefnogi a mewn cysylltiad - oherwydd ni ddylai neb ofalu ar eu pen eu hunain.
Mae cymuned sy’n gyfeillgar i ofalwyr yn un lle:
Mae bod yn ofalwr yn aml yn gallu teimlo’n ynysig. Ond pan fydd y cymorth cywir ar gael, yn lleol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol, mae’n gwneud gwahaniaeth parhaol. Ledled Cymru, mae’r Cynllun Seibiant Byr yn helpu i wireddu’r weledigaeth hon - drwy sefydliadau lleol sy’n creu mannau lle gall gofalwyr wneud y canlynol:
Mae seibiant byr yn fwy nag yn amser i ffwrdd, mae hefyd yn gyfle i ofalwyr ailgysylltu â theuluoedd yn ogystal â’u hunain. O sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a gweithdai creadigol i grwpiau cymdeithasol a thripiau dydd, mae gofalwyr yn dod o hyd i le i ymlacio, magu hyder a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Maen nhw’n cwrdd ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg - gan greu rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid sy’n lleihau unigrwydd ac yn meithrin gwytnwch, sydd yr un mor bwysig.
Ar draws prosiectau, mae thema gyffredin yn amlwg: Cysylltiad.
Mae gofalwyr yn dweud wrthym pa mor werthfawr yw:
Fel y dywedodd un gofalwr:
Dydw i ddim yn teimlo’n unig ddim mwy.
Mae cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr yn hyblyg ac yn gynhwysol - gan gynnig cymorth sy’n cyd-fynd â bywydau gofalwyr. Boed yn grŵp cymdeithasol i ddynion, yn sesiwn llesiant, neu’n weithgaredd creadigol, mae cael dewis ac ymdeimlad o berthyn yn helpu gofalwyr i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth a’u bod yn gallu ymdopi’n well.
Mae llawer yn dweud eu bod yn teimlo yn:
Gweld sut mae InclusAbility yn meithrin cysylltiadau
Mae gofalwyr yn rhan hollbwysig o’n cymunedau - ond yn cael eu hanwybyddu yn rhy aml o lawer. Drwy adeiladu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr, gallwn sicrhau bod gofalwyr yn:
Yn ystod Wythnos y Gofalwyr eleni, mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran adeiladu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr, p’un a yw’n sgwrs, yn grŵp lleol, neu’n ddeall sefyllfa rhywun.