Mewn Undod Mae Nerth: Adeiladu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr

post image 1

Yn ystod Wythnos y Gofalwyr eleni, rydym ni’n dathlu pŵer y gymuned.

Mae thema 2026, Adeiladu Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ofalwyr, yn ymwneud â chreu lleoedd i ofalwyr di-dâl deimlo eu bod yn cael eu cydnabod, eu cefnogi a mewn cysylltiad - oherwydd ni ddylai neb ofalu ar eu pen eu hunain.

Sut beth yw cymuned sy’n gyfeillgar i ofalwyr?

Mae cymuned sy’n gyfeillgar i ofalwyr yn un lle:

  • Mae gofalwyr yn cael eu gweld a’u cydnabod am y eu rôl hanfodol maen nhw’n ei gwneud
  • Mae pobl yn deall realiti gofalu
  • Mae cymorth yn rhan annatod o fywyd bob dydd
  • Mae gofalwyr yn cael cyfleoedd i gymryd seibiant, cysylltu a theimlo fel nhw eu hunain eto

Pam mae cymuned yn bwysig?

Mae bod yn ofalwr yn aml yn gallu teimlo’n ynysig. Ond pan fydd y cymorth cywir ar gael, yn lleol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol, mae’n gwneud gwahaniaeth parhaol. Ledled Cymru, mae’r Cynllun Seibiant Byr yn helpu i wireddu’r weledigaeth hon - drwy sefydliadau lleol sy’n creu mannau lle gall gofalwyr wneud y canlynol:

  • Gorffwys, magu nerth a pherthyn
  • Cymryd seibiannau ystyrlon
  • Cysylltu ag eraill sy’n deall
  • Teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a’ch cefnogi

Mwy na seibiant

Mae seibiant byr yn fwy nag yn amser i ffwrdd, mae hefyd yn gyfle i ofalwyr ailgysylltu â theuluoedd yn ogystal â’u hunain. O sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a gweithdai creadigol i grwpiau cymdeithasol a thripiau dydd, mae gofalwyr yn dod o hyd i le i ymlacio, magu hyder a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Maen nhw’n cwrdd ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg - gan greu rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid sy’n lleihau unigrwydd ac yn meithrin gwytnwch, sydd yr un mor bwysig.

Cysylltiadau sy'n para

Ar draws prosiectau, mae thema gyffredin yn amlwg: Cysylltiad.

Mae gofalwyr yn dweud wrthym pa mor werthfawr yw:

  • Rhannu profiadau â phobl sy’n deall
  • Meithrin cyfeillgarwch y tu hwnt i’w rôl gofalu

Fel y dywedodd un gofalwr:

Dydw i ddim yn teimlo’n unig ddim mwy.

 

Cymunedau sy’n gweithio i ofalwyr

Mae cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr yn hyblyg ac yn gynhwysol - gan gynnig cymorth sy’n cyd-fynd â bywydau gofalwyr. Boed yn grŵp cymdeithasol i ddynion, yn sesiwn llesiant, neu’n weithgaredd creadigol, mae cael dewis ac ymdeimlad o berthyn yn helpu gofalwyr i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth a’u bod yn gallu ymdopi’n well.

Mae llawer yn dweud eu bod yn teimlo yn:

  • Fwy cysylltiedig â’u cymuned
  • Llai ynysig
  • Gallu rheoli eu rôl o ofalu yn well

Gweld sut mae InclusAbility yn meithrin cysylltiadau

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae gofalwyr yn rhan hollbwysig o’n cymunedau - ond yn cael eu hanwybyddu yn rhy aml o lawer. Drwy adeiladu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr, gallwn sicrhau bod gofalwyr yn:

  • Cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi
  • Cael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arnynt
  • Gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain

Gorau Chwarae, Cyd Chwarae

Yn ystod Wythnos y Gofalwyr eleni, mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran adeiladu cymunedau sy’n gyfeillgar i ofalwyr, p’un a yw’n sgwrs, yn grŵp lleol, neu’n ddeall sefyllfa rhywun.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences