Nid yw cymryd seibiant byr bob amser yn syml i ofalwyr di-dâl. Mae pwysau amser, cyfrifoldebau a phryderon am adael yr unigolyn maen nhw’n gofalu amdano i gyd yn gallu ei gwneud hi’n anoddach camu i ffwrdd.
Ond gall hyd yn oed cyfnod byr gael effaith gadarnhaol, yn enwedig pan fydd yn golygu mynd allan i’r awyr agored.
Ledled Cymru, mae sefydliadau fel Age Connects Torfaen a’r Bartneriaeth Awyr Agored yn defnyddio cyllid Seibiannau Byr i ddarparu cyfleoedd hygyrch ac ymarferol i ofalwyr gymryd yr amser hwnnw.
Mae gweithgareddau awyr agored yn cynnig math gwahanol o amgylchedd i leoliadau cymorth traddodiadol. Mae bod yn yr awyr agored yn gallu helpu gofalwyr i wneud y canlynol:
I lawer o ofalwyr, mae’r math hwn o leoliad yn ei gwneud yn haws ymgysylltu a chymryd rhan.
Defnyddiodd Age Connects Torfaen gyllid i ddarparu cymysgedd o seibiannau byr i dros 140 o ofalwyr ledled Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o sesiynau Coedwig Gofalwyr, a ddaeth â phobl at ei gilydd mewn lleoliad awyr agored. Roedd rhai sesiynau ar gyfer gofalwyr yn unig, tra bod eraill yn galluogi gofalwyr i fod yn bresennol ochr yn ochr â’r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo.
Creodd y sesiynau hyn gyfleoedd ar gyfer:
Roedd yr adborth yn dangos bod cyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i dreulio amser yn yr awyr agored a chysylltu ag eraill, gyda gostyngiadau mewn straen a theimlo’n ynysig.
Dywed Emma Wootten o Age Connects Torfaen wrthym fod y sesiynau Coedwig Gofalwyr yn yr awyr agored wedi cael croeso arbennig o dda, gyda chyfranogwyr yn dweud bod treulio amser mewn amgylchedd naturiol wedi eu helpu i ymlacio, lleihau straen a chysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae’r gymysgedd o sesiynau pwrpasol i ofalwyr a gweithgareddau ar y cyd ar gyfer gofalwyr ac unigolion sy’n derbyn gofal wedi ein galluogi i ddiwallu amrywiaeth o anghenion, gan ddarparu cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd i deuluoedd fwynhau profiadau cadarnhaol gyda’i gilydd.
Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys gweithgareddau cymdeithasol, fel noson Bwffe a Bwgi, gan gynnig seibiant mwy traddodiadol a oedd yn canolbwyntio ar gysylltiad cymdeithasol a chyfranogiad cymunedol.

Diolch i gyllid gan y Cynllun Seibiannau Byr, daeth breuddwyd y Bartneriaeth Awyr Agored o gynnal digwyddiad preswyl i Ofalwyr Ifanc yng Nghymru yn fyw, gan ddod â 68 o ofalwyr ifanc o chwe sir wahanol ledled Cymru at ei gilydd.
Rydyn ni wedi llwyddo i gryfhau ein perthynas â sefydliadau gofalwyr ifanc ledled Cymru dros y tair blynedd diwethaf, gan drefnu sesiynau gweithgareddau, digwyddiadau preswyl a chyrsiau, ac roedden ni eisiau datblygu hyn yn ddigwyddiad preswyl mwy, gyda mwy o weithgareddau, mwy o ranbarthau’n cymryd rhan ac archwilio rhywle newydd (ar gyfer llawer o’r grwpiau), esbonia Sioned Johnstone, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored yn y Bartneriaeth Awyr Agored.
Roedd y digwyddiad preswyl yng nghanolfan Padlwyr Llandysul yn gyfle i’r gofalwyr ifanc roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol weithgareddau, gan gynnwys caiacio, dringo yn yr awyr agored, crefftau natur a nofio mewn afonydd.
Roedd yn wych gweld pobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd a gwahanol ardaloedd yn dod at ei gilydd, yn gwneud ffrindiau newydd, yn magu hyder, ac yn mwynhau’r awyr agored mewn amgylchedd mor gadarnhaol.
- Gareth Bryant, Swyddog Datblygu Chwaraeon Dŵr Cyngor Sir Ceredigion a Rheolwr Canolfan CW, Canolfan Canŵio Padlwyr Llandysul
Dywedodd Sioned y gall gweithgareddau fel hyn helpu i gael gwared ar rwystrau cyffredin sy’n atal pobl rhag cymryd rhan, fel diffyg hyder neu fynediad at offer. I rai cyfranogwyr, dyma’r tro cyntaf iddynt gymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd, sy’n dangos sut gall seibiant byr hefyd gyflwyno profiadau newydd. Daeth sawl thema allweddol i’r amlwg yn yr adborth gan y staff a’r gofalwyr ifanc dan sylw, gan dynnu sylw at effaith y profiad; anogaeth, hyder, staff gwych, ysbaid, ffrindiau newydd ac atgofion anhygoel.
O ofalwyr ifanc yn darganfod anturiaethau newydd i oedolion sy’n ofalwyr yn dod o hyd i foment o dawelwch, mae gan yr awyr agored rywbeth i’w gynnig i bawb. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn gallu rhoi seibiant o gyfrifoldebau bob dydd, helpu pobl i deimlo’n fwy cysylltiedig, rhoi hwb i hyder a chefnogi llesiant meddyliol. Fel y dengys y prosiectau hyn, gall seibiant byr yn yr amgylchedd cywir gael effaith barhaol, beth bynnag fo oedran neu amgylchiadau gofalwr.