Canolfan Gofalwyr Abertawe

post image 1

Grymuso Gofalwyr gyda Seibiant Hanfodol

Diolch i’r Cynllun Seibiant Byr, mae Canolfan Gofalwyr Abertawe wedi gallu helpu gofalwyr i adfywio a gwella eu llesiant, gan ddarparu amrywiaeth o weithgareddau fel aros mewn gwestai ymlaciol poblogaidd a chynnig teithiau undydd hwyliog.

Mae gofalwyr wedi mwynhau teithiau i lefydd fel Parc Oakwood, Castell Caerdydd a Marchnad Nadolig Bryste. Roedd y teithiau hyn yn gyfle i ofalwyr ymlacio a mwynhau profiadau newydd i ffwrdd o'u cyfrifoldebau dyddiol. Roedd therapïau cyfannol a thanysgrifiadau, fel aelodaeth o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn galluogi gofalwyr i fwynhau rhywfaint o hunanofal ac archwilio diddordebau newydd, gan gyfrannu at eu llesiant cyffredinol. Digwyddiadau cymdeithasol oedd un o uchafbwyntiau penodol y prosiect, gyda dathliadau Dydd Sant Ffolant, y Nadolig a Dydd Gŵyl Dewi yn dod â gofalwyr at ei gilydd i gymdeithasu, canu a dawnsio.

Dywedodd Emma Daniels, y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Canolfan Gofalwyr Abertawe,

Mae’r Cynllun Seibiant Byr wedi galluogi gofalwyr i ddeall yn well eu sefyllfa, i ddeall anghenion y rhai sy’n derbyn gofal, i leihau straen ac i wella eu hyder wrth ofalu.

 “Mae adborth gan ofalwyr yn awgrymu’n gryf bod cael seibiant yn gallu cymell pobl i barhau â’u perthynas ofalgar a’i chynnal.” Dywedodd Emma.

Gweithio gyda’n gilydd

Roedd Canolfan Gofalwyr Abertawe wedi ymateb yn gyflym pan gododd cyfle annisgwyl diolch i’r cynnig hael gan Bistrot Pierre i roi pryd tri chwrs yn rhad ac am ddim i 25 o ofalwyr. Roedd cyllid o’r Cynllun Seibiant Byr wedi talu am y cludiant i fynd â’r gofalwyr i’r bwyty. Roedd hyn wedi rhoi cyfleoedd i ofalwyr gael cyfarfod a chreu cyfeillgarwch gyda gofalwyr eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

Roedd y gofalwyr yn hynod ddiolchgar am y cyfle hwn:

“Diolch yn fawr iawn i chi a’r ganolfan gofalwyr am ginio mor hyfryd yn Bistrot Pierre. Bu’n bleser o’r mwyaf i’r ddau ohonom ni. Rydych chi wir yn gwneud gwahaniaeth.”

Dywedodd gofalwr arall,

Rydw i’n teimlo fel person newydd. Diolch am ddangos i mi ei bod yn iawn gofalu amdanaf fy hun hefyd.

Galw mawr

Mae galw mawr am y Micro-grantiau o hyd, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y cynllun. Maent wedi ariannu gweithgareddau personol fel bwyta allan, ymweliadau â sba a theithiau i’r sinema, gan roi cyfleoedd i ymlacio a mwynhau.

Dywedodd Runa Begum, o Ganolfan Gofalwyr Abertawe, “Mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi ni i gynnig amrywiaeth o ddatrysiadau arloesol o ran seibiant sy’n addas i anghenion amrywiol gofalwyr, fel gofal llanw a chyfleoedd i gael seibiant ar adeg ac mewn lleoliad sy’n addas iddyn nhw. Mae hyn yn arbennig o amlwg gyda thalebau Micro-grantiau, lle gall gofalwyr ddewis beth maen nhw'n ei hoffi a phryd y gallan nhw ei ddefnyddio." 

Cynhwysiant

Mae cefnogi’r gymuned ethnig leiafrifol yn ffocws allweddol i Ganolfan Gofalwyr Abertawe. Roedd gofalwyr o’r gymuned hon wedi gofyn yn benodol am daith undydd i Alum Rock yn Birmingham. Roedd y daith hon yn eu galluogi i siopa ar gyfer Ramadan ac Eid, gan ddarparu diwrnod di-straen i ffwrdd o'u rolau gofalu.

Mynegodd un gofalwr ei ddiolchgarwch, gan ddweud,

“Diolch am ddiwrnod i’r brenin. Alla i ddim gyrru, felly braf iawn oedd cael mynd ar y daith yma. Alla i ddim aros tan y daith nesaf!”

Yn ogystal, roedd y cynllun wedi ariannu’r digwyddiad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar gyfer grŵp dementia Llansamlet, gan alluogi gofalwyr i ddathlu a chysylltu â'u treftadaeth ddiwylliannol.

Gwasanaeth gwarchod

Mae cyllid o’r Cynllun Seibiant Byr yn galluogi gweithwyr cymorth a gwirfoddolwyr i gynnig cwmnïaeth ddwy awr yr wythnos am gyfnod o bum wythnos. Mae’r cymorth hwn yn hanfodol er mwyn lleihau straen a gwella ansawdd bywyd gofalwyr a’r rhai maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Gall y gofalwyr gael seibiant, gan wybod bod eu hanwyliaid mewn dwylo da.

Diolch i’r gwasanaeth cwmnïaeth hwn, cafodd un gofalwr, sy’n wreiddiol o Ganada, gymorth ar ôl cael ei llethu gan ei dyletswyddau gofalu ac yn daer am gymorth. Llwyddodd i fynd i sesiwn hyfforddi dementia, heb boeni am adael ei rhieni bregus ar eu pen eu hunain.

Rhannodd gofalwr arall, “Diolch o galon am y cymorth rydych chi wedi’i roi i mi dros yr wythnosau diwethaf. Mae Sian (y gwarchodwr) wedi bod yn wych. Mae fy ngŵr yn edrych ymlaen at eu sgyrsiau. Rydw i’n teimlo fel person newydd sydd ddim yn ofni gofyn am help mwyach. Diolch am ddangos i mi ei bod yn iawn gofalu amdanaf fy hun hefyd.”

Mwy na seibiant

Mae'r prosiect wedi rhoi cyfle i ofalwyr gael amser iddyn nhw eu hunain, lle gallan nhw gwrdd â phobl a chymdeithasu i ffwrdd o'u rolau gofalu. Mae’r Micro-grantiau, y teithiau, y gweithgareddau a’r gwasanaeth cwmnïaeth wedi creu cysylltiadau ymysg gofalwyr sydd mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn fwy na dim ond seibiant; mae’n gyfle i ofalwyr ailgysylltu â nhw eu hunain a phobl eraill, gan feithrin gwytnwch a gofalu am eu llesiant.

Diolch i gyllid tan fis Mawrth 2026, mae Canolfan Gofalwyr Abertawe yn parhau i estyn allan a chefnogi gofalwyr newydd.

 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences