Dod o hyd i gryfder drwy rannu profiadau

post image 1

Sut mae gofalwyr yn cael cymorth gan gymheiriaid drwy'r Cynllun Seibiannau Byr

Ar 30 Gorffennaf, mae'r byd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Cyfeillgarwch - diwrnod sy'n cydnabod bod cysylltiad rhwng pobl yn bwerus. I ofalwyr di-dâl ledled Cymru, gall cyfeillgarwch a grwpiau cyfoedion gynnig achubiaeth hanfodol. 

Gall gofalu am anwylyd fod yn un o'r rolau mwyaf gwerth chweil mewn bywyd, ond gall hefyd fod yn un o'r rhai mwyaf ynysig. Mae gofalwyr di-dâl yn neilltuo eu hamser i gefnogi aelodau o'r teulu ac anwyliaid, yn aml heb fawr o amser iddyn nhw eu hunain. Dyna pam fod y Cynllun Seibiannau Byr, a reolir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn fwy na chyfle i gymryd seibiant yn unig - mae'n borth at gysylltiad, dealltwriaeth a chyfeillgarwch parhaol.

"Roedd rhannu straeon, chwerthin, ac eiliadau o ddealltwriaeth gydag unigolion mewn sefyllfa debyg yn cynnig cysur ac yn codi calon. Mae'n fy atgoffa nad ydw i ar fy mhen fy hun yn y sefyllfa yma." Gofalwr a gefnogir drwy'r Cynllun Seibiannau Byr gan Interlink RhCT.

Mwy na seibiant: achubiaeth drwy gefnogaeth cyfoedion

Er mai prif nod y Cynllun Seibiannau Byr yw rhoi seibiant mawr ei angen i ofalwyr o'u cyfrifoldebau, un o'i fanteision mwyaf pwerus ac a anwybyddir yn aml yw'r gefnogaeth sy’n datblygu gan gymheiriaid. Pan fydd gofalwyr yn dod at ei gilydd - boed ar gyfer seibiant grŵp, gweithdy creadigol, neu i rannu gweithgaredd - nid cymryd amser i ffwrdd yn unig y maen nhw. Maen nhw'n camu i le diogel, lle mae eraill yn eu deall.

Meddai Nicola, a fu am wythnos o seibiant drwy'r cynllun gyda'r elusen 'Follow your Dreams':

Roeddwn i'n teimlo cefnogaeth gan y rhwydwaith ehangach o ofalwyr a oedd yn deall heb orfod dweud gair.

Mae rhannu profiadau yn creu cyfleoedd naturiol i ofalwyr gysylltu ag eraill sy'n wirioneddol "ddeall" eu sefyllfa. Does dim angen esbonio'r holl deimladau emosiynol a'r blinder, na'r balchder tawel, sy'n dod law yn llaw â gofalu, oherwydd mae pawb yn yr ystafell wedi bod drwy’r un profiad.

"Roeddwn i'n teimlo'n ynysig iawn ac fel petai neb rwy'n ei adnabod yn deall beth rydw i'n mynd drwyddo. Rydw i mor falch fy mod wedi dod o hyd i'r grŵp gwych yma, mae'n fwy o help na fy sesiynau cwnsela."

- Gofalwr a gefnogir drwy'r Cynllun Seibiannau Byr gan Campfire Cymru.

 

Creu cyfeillgarwch sy'n para

Dywed llawer o ofalwyr mai un o'r pethau mwyaf gwerthfawr sy’n deillio o gymryd rhan yn y cynllun yw'r cyfeillgarwch y maen nhw'n eu ffurfio. Mae'r cysylltiadau hyn yn aml yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r seibiannau eu hunain, gan ddatblygu’n rhwydweithiau cymorth sy'n cynnig anogaeth, cyngor a chwmnïaeth ymhell ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

"Fe wnes i ffrindiau newydd sy'n parhau i fy nghefnogi ac y galla i droi atyn nhw pan fydd angen ysgwydd i bwyso arni. Rwy'n poeni am ddyfodol fy mab a minnau, ond mae’r ffaith fod yna bobl i siarad â nhw ac o bosibl mwy o deithiau i edrych ymlaen atyn nhw, yn rhoi gobaith i mi am fwy o hwyl a chwerthin."

- Gofalwr a gefnogir drwy'r Cynllun Seibiannau Byr gan DAFFODILS.

I rai, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gyfarfod rhywun mewn sefyllfa debyg. I eraill, mae'n gyfle i chwerthin, crio a rhannu straeon heb farnu. Gall y cysylltiadau hyn fod yn drawsnewidiol, gan helpu gofalwyr i deimlo'n llai unig ac yn fwy grymus yn eu rolau.

Cynhaliodd Headway Caerdydd a De-ddwyrain Cymru chwe grŵp 'Teulu a Ffrindiau' misol i roi cyfle i ofalwyr gyfarfod a ffurfio cyfeillgarwch ag eraill sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg, ac i elwa o fod yn rhan o gymuned nad yw’n barnu, sy’n gydymdeimladol a chefnogol.

"Mae nosweithiau Teulu a Ffrindiau Headway wedi bod mor werthfawr i mi. Drwy’r rhain rydw i wedi cyfarfod rhywun arall sydd â phartner sydd wedi cael ei effeithio yn yr un modd gan ei anaf i'r ymennydd ac sydd wedi rhannu'r un profiadau. Mae hyn wedi bod o gymorth mawr i mi wrth geisio ymdopi."

- Gofalwr a gefnogir drwy'r Cynllun Seibiannau Byr gan Headway.

Yr effaith ehangach ar les

Mae effaith cymorth gan gymheiriaid ar les gofalwyr yn sylweddol. Mae astudiaethau’n dangos yn gyson bod cysylltiad cymdeithasol yn ffactor allweddol i leihau straen, gorbryder ac iselder. I ofalwyr, sydd mewn mwy o berygl o heriau iechyd meddwl oherwydd gofynion eu rôl, gall y math hwn o gefnogaeth newid bywyd.

"Mae bod yng nghwmni gofalwyr o'r un anian yn help fy iechyd meddwl. Mae gwybod bod gennym fynediad at raglen mor dda a threfnus o seibiannau byr wedi bod yn werthfawr. Dydw i ddim yn teimlo'n ynysig ond yn rhan o deulu gwych!" - Gofalwr a gefnogir drwy'r cynllun gan DAFFODILS.

Trwy greu mannau lle gall gofalwyr gyfarfod, siarad a meithrin perthnasoedd, mae'r Cynllun Seibiannau Byr yn cyfrannu at gymuned gryfach a mwy gwydn o ofalwyr ledled Cymru. Mae mwy iddo na chymryd seibiant yn unig, mae'n ymwneud â dod yn ôl yn gryfach, gyda ffrindiau newydd ac ymdeimlad newydd o berthyn.

Rhoddodd amser i mi gyfarfod pobl eraill sydd â ffordd o fyw debyg i mi. Helpodd fi i fod yn "fi" am awr neu ddwy. Cefais gyfle i ymlacio a chael hwb o’r newydd i fynd yn ôl i fy mywyd llawn straen bob dydd.

- Gofalwr a gefnogir drwy'r cynllun gan Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

Tystiolaeth o bŵer cymuned

Mae'r Cynllun Seibiannau Byr yn enghraifft wych o sut y gall cynllun ystyriol, cynhwysol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Trwy gydnabod pwysigrwydd cefnogaeth gan gymheiriaid, mae'r cynllun yn ychwanegu haen o werth sy'n mynd ymhell y tu hwnt i seibiannau ac ymlacio. Mae'n meithrin cymuned, yn datblygu empathi ac yn atgoffa gofalwyr nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

Oherwydd weithiau, nid amser i ffwrdd yw’r math gorau o seibiant – ond yn hytrach amser gyda'n gilydd.

 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences