 
                    Diolch i gyllid gan y Cynllun Seibiant Byr, mae Interlink Rhondda Cynon Taf wedi gallu cefnogi deg o sefydliadau ar lawr gwlad ledled Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Yn eu plith mae'r Behaviour Support Hub – tîm angerddol o rieni sy'n helpu cyd-rieni a gofalwyr plant niwrowahanol. Drwy'r cynllun, aethant ati i drefnu seibiant gwirioneddol arbennig, a dyma nhw i rannu’r hanes...
Ddiwedd mis Medi, cafodd grŵp o rieni sy'n ofalwyr gyfle i gael seibiant heddychlon ym Mythynnod Vale Farm yn Aberhonddu.
Roedd yn gyfle i gamu i ffwrdd oddi wrth bwysau gofalu bob dydd, i arafu, ymlacio, a chanolbwyntio'n llwyr arnyn nhw eu hunain. Roedd bryniau Cymru, yr awyr iach, a’r ehangder o’u cwmpas yn golygu mai dyma’r lle perffaith i orffwys, chwerthin, a bod.
Roedd y bythynnod, sy’n nythu yn y bryniau, yn lle perffaith i anadlu. Yng nghanol cân yr adar a’r awyr iach, gallai rhieni sy'n ofalwyr arafu, ystwytho, a mwynhau eu hamser eu hunain. Aeth rhai am dro hamddenol, eraill i'r twba twym, tra bu’r lleill yn swatio gyda phaned, â’r byd yn aros yn amyneddgar y tu allan.
Un o uchafbwyntiau'r penwythnos oedd sesiwn aromatherapi mewn grŵp. Dysgodd y rhieni sy’n ofalwyr sut y gall gwahanol olewau helpu gyda lles, o dawelu gorbryder i roi hwb i’r egni, a chreodd pob un ohonynt eu cyfuniad personol eu hunain o olewau i’w gadw. Roedd yn ffordd hyfryd o'u hatgoffa bod yr hunanofal symlaf yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.
Bu’r grŵp yn cymryd rhan mewn sesiwn gwneud pitsas, yn helpu i baratoi prydau ar gyfer y grŵp, fel tatws trwy'u crwyn, ac yn mwynhau nosweithiau llawn chwerthin a rhannu straeon. Rhwng y bwyd, y sgyrsiau, a'r ymlacio yn y twba twym o dan awyr fawr y Bannau, roedd cydbwysedd gwych o orffwys, creu cysylltiadau, a gwneud gwaith ymchwil pwysig iawn ar ba mor hir y gallwch aros yn y twba twym heb i’ch croen grebachu’n ddim.
Dyma bytiau o’r hyn y bu’r rhieni sy'n ofalwyr yn ei ddweud am y profiad.
Beth oedd eich hoff ran chi o'r penwythnos?
'Alla i ddim dewis dim ond un: y chwerthin, y cwtsho, y cysylltiadau, y niwl ar y mynyddoedd, bod ben i waered ar y siglen. Mae pob un o’r adegau hyn yn dod ynghyd i greu atgof eithriadol o hardd.’
Sut deimlad oedd cael amser i chi’ch hun?
‘Tawel braf; cefais amser i feddwl am sefyllfaoedd gartref, a thawelu ambell bryder oedd ar fy meddwl. Hefyd, roedd y cyngor gan y rhieni eraill yn gwneud i mi deimlo nad oeddwn i ar fy mhen fy hun nac yn colli fy mhwyll.’
Wnaethoch chi chwerthin neu wenu mwy nag arfer? Pam?
'Cymaint o resymau: awyr iach – awyr iach a glân, a dweud y gwir – mannau gwyrdd a mannau glas. Siarad am bethau oedd yn gyffredin rhyngon ni, profiadau roedden ni i gyd wedi’u cael, a gallu gweld yr hiwmor yng nghanol y pethau anodd.’
Pa un oedd eich hoff ffordd o ymlacio?
‘Eistedd yn dawel. Cau fy llygaid. Eistedd wrth y tân. Roeddwn i wrth fy modd hefyd â'r myfyrio dan arweiniad a wnaethon ni.’
Pa un peth o'r penwythnos fyddwch chi’n ei gofio a’i gadw?
'Ffrindiau, strategaethau newydd, ffyrdd o ymdopi, a gwybod bod arnaf angen amser i fi fy hun.'
Petasech chi’n gallu disgrifio'r penwythnos mewn un gair, beth fyddai’r gair hwnnw?
'Na, alla i ddim, ddim mewn un gair. Mae gen i sawl un: cysylltiad, cwtsh, heddwch, anadlu, chwerthin, deall, adfywio a gogoneddus. Diolch!’
Roedd yn benwythnos llawn pleserau syml, adegau tawel, a digon o chwerthin. Roedd yn gyfle i atgoffa pawb nad peth hunanol yw gofalu amdanoch chi eich hun; mae'n hanfodol. Mae rhieni sy'n ofalwyr yn rhoi cymaint i'w teuluoedd a'u cymunedau fel eu bod yn aml yn anghofio rhoi rhywbeth iddyn nhw eu hunain. Roedd yr encil hwn yn ysgogiad i oedi, ymlacio, a threulio ychydig oriau yn gwneud dim byd heb deimlo'r mymryn lleiaf o euogrwydd.
Rydyn ni mor ddiolchgar i'r Cynllun Seibiant Byr am wneud hyn yn bosibl. Cafodd rhieni sy’n ofalwyr gyfle i gael gorffwys a chreu cysylltiadau ag eraill, gan ddychwelyd adref yn teimlo'n ysgafnach, yn dawelach, ac wedi'u hadfywio.
Gwybodaeth am y Behaviour Support Hub
Yn y Behaviour Support Hub, rydyn ni'n gwybod bod teuluoedd a chymunedau'n ffynnu pan fydd y rhieni sy’n ofalwyr yn iach eu hunain. Dyna pam rydyn ni'n cynnig cymorth, adnoddau, a gwasanaethau lles yn benodol i rieni sy'n ofalwyr, gan eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi a'u bod yn gallu dal ati'n gryf.