Interlink RCT: Straeon Gwirioneddol, Effaith Wirioneddol

post image 1

Mae Interlink RCT, mewn cydweithrediad â Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, yn cynnal prosiect i sicrhau bod gofalwyr mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn gallu cael mynediad i’r Cynllun Seibiannau Byr.

Fel rhan o’r prosiect hwn, mae deg sefydliad cymunedol ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful wedi derbyn cyllid i gyflwyno rhaglen bwerus o seibiannau byr sy’n cynnig cyfle haeddiannol i ofalwyr gael eiliad i anadlu. Yn ystod y pedwar mis cyntaf, mae 436 o ofalwyr a 228 o unigolion sy’n derbyn gofal wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau a luniwyd i gynnig gorffwys, cysylltiad a llawenydd.

Roedd seibiannau’n amrywio o weithdai creadigol a sesiynau llesiant i aros dros nos a digwyddiadau Nadoligaidd, gyda phob un ohonynt wedi’u llunio i gefnogi llesiant emosiynol, cymdeithasol a chorfforol gofalwyr.

Gweithdai Creadigol a Llesiant

Roedd nifer o’r prosiectau wedi llunio sesiynau’n canolbwyntio ar gelf, creadigrwydd ysgafn, therapïau ymlacio a chyfleoedd i ddadflino.

Bu Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George yn darparu sesiynau creu mosaig, printio, adweitheg ac aromatherapi, yn ogystal â the prynhawn ar thema Calan Gaeaf. Soniodd gofalwyr eu bod yn teimlo’r pwysau’n codi yn ystod y sesiynau a luniwyd yn arbennig ar eu cyfer:

Rhannodd un gofalwr gwrywaidd:


Roedd yn braf gallu cwrdd â gofalwyr gwrywaidd eraill. Fe wnes i sylweddoli nad fi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn.

Seibiant Tri Diwrnod Trawsnewidiol

I rai gofalwyr, cafwyd y seibiant go iawn cyntaf mewn sawl blwyddyn ar ffurf tri diwrnod yn Butlins, a gefnogwyd gan Gelli Life for Living.

Roedd gofalwyr yn disgrifio’r penwythnos fel profiad trawsnewidiol yn eu bywydau:

“Am ychydig ddyddiau, roeddwn i’n gallu bod yn unigolyn – nid yn ofalwr. Nid oeddwn wedi sylweddoli fy mod wedi gorflino gymaint nes i mi gael cyfle i anadlu.”

I eraill, roedd bod oddi cartref gyda chymheiriaid a oedd yn deall eu sefyllfa’n cynnig gollyngdod, undod ac egni newydd i allu dychwelyd i’w rolau gofalu.

Sesiynau Creadigol yn Canolbwyntio ar Natur

Bu Growing Spaces yn cynnal gweithgareddau ysgafn, naturiol – crefftau natur, sesiynau celf gyda deunyddiau wedi’u hailgylchu a gweithdai creadigol i helpu gofalwyr i adfywio a  magu hyder.

Dywedodd un gofalwr:

“Roedd y gweithgaredd yn brofiad gwych i symud fy meddwl oddi wrth ddigwyddiadau trist… roedd yn brofiad hwyliog ac fe wnes i fwynhau fy hun yn fawr.”

I ofalwyr ifanc, roedd gweithdai pontio creadigol yn cynnig cyfle prin i fynegi eu hunain, datblygu sgiliau a chysylltu eu hunain gydag eraill sy’n wynebu heriau tebyg.

Prydau bwyd, tylino a threulio amser gyda’i gilydd

Bu Age Connects Morgannwg yn cynnig cymorth deublyg: prydau bwyd i ofalwyr a’u hanwyliaid, a thriniaethau llesiant un i un i’r gofalwyr yn unig.

Disgrifiodd un gofalwr sydd yn ei 80au effaith mynychu’r cinio gyda’i wraig a chymheiriaid cyfarwydd: “Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd… rydym yn manteisio ar bob cyfle fel hyn gan ein bod yn gallu cefnogi ein gilydd.”

Roedd y pleser syml o fwyd, cwmni a dealltwriaeth yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Achubiaeth wythnosol ar gyfer gofalwyr gwrywaidd

Darparodd yr ARC Project 22 sesiwn o’r “Clwb Prynhawn Iau”, gan gynnig amgylchedd diogel, cymdeithasol a strwythuredig i ofalwyr gwrywaidd, gyda gweithgareddau’n amrywio o goginio i gerddoriaeth.

Roedd cyfranogwyr yn disgrifio’r sesiynau fel rhywbeth hanfodol: “Mae’n achubiaeth i’r ddau ohonom.”

“Roeddwn i’n teimlo mor unig ddoe – diolch am fod yno i gynnig te ac am wrando.”

Cafodd gofalwyr hefyd gefnogaeth ar ffurf cynlluniau gofal wedi’u personoli, cysylltiad â gwasanaethau, ac arweiniad emosiynol, gan ddangos sut y gall seibiannau byr ymestyn ymhell y tu hwnt i’r sesiwn ei hun.

Hyder Creadigol ac Adeiladu Cymuned

Trwy weithdai celf a chrefft di-bwysau, bu Neurobusiness yn cefnogi gofalwyr niwrowahanol a’r rhai sy’n gofalu am bobl niwrowahanol. Roedd y sesiynau hyn yn fach, yn dawel ac yn hyblyg, wedi’u llunio i fodloni anghenion pobl yn eu sefyllfa bresennol.

Roedd yn helpu i mi adfywio ac yn rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato.

Dechreuodd rai gofalwyr wirfoddoli, gan gynnig ymdeimlad newydd o bwrpas a chyfraniad.

Boreau Coffi, Nosweithiau Sinema a Lleoedd Cymdeithasol

Bu’r Grŵp Gellideg Foundation yn cynnig te prynhawn, sesiynau ‘pampro’, nosweithiau sinema a digwyddiadau cymdeithasol, gyda buddion emosiynol pwerus i ofalwyr ac unigolion sy’n derbyn gofal.

Dywedodd un gofalwr sy’n cefnogi ei merch sy’n oedolyn yn dilyn strôc:

“Nid oeddwn wedi gweld fy merch yn edrych mor hapus ers amser maith… roedd ei gweld hi’n gwenu’n fy ngwneud i’n hapus iawn.”

Seibiant Preswyl i Rieni sy’n Ofalwyr

Bu’r Behaviour Support Hub yn cynnig seibiant preswyl, gweithdai gwneud siocled, noson lofruddiaeth ddirgel a chrefftau Nadoligaidd i rieni sy’n gofalu am blant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Anhwylderau yn y sbectrwm Awtistig (ASD) ac ADHD.

Roedd yr effaith yn bellgyrhaeddol:

“Roeddwn i wedi gorflino’n llwyr, yn orbryderus ac yn ofidus iawn… Fe wnaeth y seibiant hwn fy atgoffa fy mod i’n bwysig.”

Disgrifiodd un rhiant ei fod yn teimlo ei fod wedi “adfywio” ac yn gallu parhau i gefnogi anghenion ei blentyn.

Seibiannau Gyda’r Nos ar gyfer Gofalwyr Prysur

Yn olaf, darparodd Pobl yn Gyntaf Cwm Taf deithiau gyda’r nos, gŵyl fechan a pharti Nadolig, gan roi seibiant i ofalwyr pan oedd fwyaf ei angen.

Fel y dywedodd un gofalwr:

“Heb y gwasanaeth hwn, ni fyddem wedi cael y cyfle i gael seibiant byr o’r rôl fel gofalwr, yn enwedig wrth weithio llawn amser.”

I nifer, gyda’r nos oedd yr unig amser y byddai egwyl yn bosibl.

Effaith barhaus

Ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, mae lleoedd bychain ond pwerus wedi cael eu creu, lle gallai gofalwyr anadlu, chwerthin, cysylltu a bod yn nhw eu hunain. Boed hynny mewn gweithdy creadigol, pryd o fwyd, penwythnos i ffwrdd neu amser tawel gydag eraill sy’n deall, mae’r Seibiannau Byr hyn yn cynnig rhywbeth nad yw gofalwyr yn ei gael yn aml: amser iddyn nhw eu hunain.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences