Mae Wythnos Cydraddoldeb Hil yn gyfle i ni wrando ac i fyfyrio. Ledled y DU, mae'n annog sefydliadau, cymunedau ac unigolion i ystyried sut rydyn ni’n adeiladu cymdeithas lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn, yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi'n gyfartal. Mae'n fudiad byd-eang blynyddol i sbarduno ac adnewyddu gobaith ac ysbrydoli cynnydd. Y thema eleni yw #ChangeNeedsAllOfUs, ac mae’n cael ei gynnal rhwng 2 a 8 Chwefror.
I ofalwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, gall hiliaeth, ynysu cymdeithasol a rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau prif ffrwd waethygu'r pwysau gofalu. Dyna pam mae cynhwysiant, tegwch a hygyrchedd wrth galon y Cynllun Seibiant Byr – nid yn unig yn ystod Wythnos Cydraddoldeb Hil, ond drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r Cynllun Seibiant Byr yn bodoli i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael seibiant ystyrlon mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw. Mae hyn yn golygu cydnabod nad yw un ateb yn addas i bawb. Daw gofalwyr o bob cefndir, diwylliant a chymuned, ac mae'r angen am seibiant, cysylltiad a chydnabyddiaeth yn berthnasol i bob hunaniaeth.
Yng Nghymru, mae 6% o ofalwyr yn ystyried eu hunain yn rhan o gymuned ethnig leiafrifol (Cyfrifiad 2021). Yn ystod chwe mis cyntaf y Cynllun Seibiant Byr yn 2025/26, nododd 13% o ofalwyr a gafodd gymorth drwyddo eu bod yn ystyried eu hunain yn rhan o gefndir ethnig leiafrifol, gan adlewyrchu ffocws y cynllun ar gyrraedd gofalwyr a allai fel arall gael eu hanwybyddu.
Gall rhwystrau sy'n gysylltiedig â hil ac ethnigrwydd, gan gynnwys iaith, disgwyliadau diwylliannol o ran gofalu, profiadau o wahaniaethu a diffyg ymddiriedaeth mewn systemau statudol, i gyd effeithio ar allu gofalwyr i ofyn am gymorth. Os yw rhaglen yn wirioneddol gynhwysol, rhaid iddi fynd ati i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn.
Dyna pam mae’r Cynllun Seibiant Byr yn gweithio drwy rwydwaith amrywiol o ddarparwyr dibynadwy ledled Cymru. Mae’r sefydliadau hyn wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, yn deall cyd-destunau diwylliannol lleol, ac mewn sefyllfa dda i ymateb i brofiadau bywyd gofalwyr.
Mae themâu Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, sef cynrychiolaeth, perthyn, cynghreiriaeth a gweithredu, yn cyd-fynd yn agos â’r dull gweithredu hwn. Mae cynhwysiant yn golygu bod y rheiny y mae arnynt angen y gwasanaeth wedi helpu i lywio, i gyflawni ac i hyrwyddo’r gwasanaeth hwnnw.
Isod ceir tair enghraifft o sut beth yw ymarfer cynhwysol ar waith yn y Cynllun Seibiant Byr.
Drwy'r Cynllun Seibiant Byr, mae Canolfan Gofalwyr Abertawe yn dangos dealltwriaeth ddofn y gall cyfrifoldebau gofalu edrych yn wahanol iawn ar draws diwylliannau, a bod yn rhaid i'r cymorth hwnnw fod yn hyblyg, yn barchus ac yn ymatebol.
Mae cynhwysiant wrth galon y gwaith hwn. Mae gofalwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol wedi cael cymorth i gael mynediad at weithgareddau y gwnaethant gais amdanynt eu hunain, gan gynnwys taith grŵp o bwysigrwydd diwylliannol i Alum Rock yn Birmingham. Roedd y daith hon yn rhoi cyfle i ofalwyr siopa ar gyfer Ramadan ac Eid, gan ddarparu diwrnod di-straen i ffwrdd o'u rolau gofalu.
Dywedodd un o’r gofalwyr, “Diolch am ddiwrnod i’r brenin. Alla i ddim gyrru, felly braf iawn oedd cael mynd ar y daith yma.”
Mae'r Cynllun hefyd wedi cefnogi dathliad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar gyfer grŵp dementia Llansamlet, gan roi cyfle i ofalwyr gysylltu â'u treftadaeth ddiwylliannol mewn man cefnogol a rennir. Mae hyn yn adlewyrchu pwyslais Wythnos Cydraddoldeb Hiliol ar gynrychiolaeth, gan sicrhau bod gofalwyr yn gweld eu hunaniaeth a’u profiadau’n cael eu hadlewyrchu yn y gefnogaeth a gânt.
Mae Race Equality First sy’n arbenigwyr ar fynd i’r afael â gwahaniaethu a chefnogi pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, yn helpu i graffu’n fanwl ar gydraddoldeb hil.
Mae Race Equality First wedi cefnogi gofalwyr di-dâl i gael seibiannau a allai fel arall deimlo allan o’u cyrraedd - yn cynnwys teithiau i ffwrdd a gweithgareddau cymunedol a chyfleoedd syml i dreulio amser o safon gyda theulu a ffrindiau.
Disgrifiwyd y galw am y cymorth hwn fel “rhyfeddol”, gyda gofalwyr yn mynegi’r rhyddhad o allu gwneud rhywbeth gwahanol neu fforddiadwy am y tro cyntaf. Mae gweithgareddau grŵp wedi bod yn arbennig o boblogaidd, gan adlewyrchu gwerthoedd diwylliannol sy'n ymwneud â phrofiadau a rennir a chyd-gefnogaeth. Fel mae Race Equality First yn egluro, mae treulio amser gyda’i gilydd fel cymuned yn rhoi cyfle i ofalwyr “helpu ei gilydd gyda’u cyfrifoldebau gofalu” wrth gamu i ffwrdd oddi wrth bwysau dyddiol.
Fe wnaeth un gofalwr gyfleu’r effaith yn bwerus, gan ddisgrifio ei seibiant fel cyfle i “gael fy nghefn ataf, adfywiogi a bwrw golwg ar ” ei rôl gofalu.
Mae’r gwaith hwn yn cysylltu’n uniongyrchol â ffocws Wythnos Cydraddoldeb Hiliol ar gynghreiriaeth a gweithredu – mynd i’r afael ag anghydraddoldeb drwy gefnogaeth ymarferol wedi’i harwain gan y gymuned.
Mae Age Connects Torfaen yn dangos sut gall arferion cynhwysol bontio diwylliannau, cenedlaethau a chymunedau ffydd. Mae eu sesiwn maldod ar gyfer menywod sy'n ofalwyr Mwslimaidd yn dangos sut gall dyluniad sy'n seiliedig ar ddiwylliant drawsnewid seibiant byr yn rhywbeth ystyrlon iawn.
Cafodd y sesiwn ei chreu gyda ffydd, preifatrwydd a chysur gofalwyr mewn golwg, gan ddefnyddio cynhyrchion sy’n ystyriol o reolau halal, gofod preifat a mynediad at gyfleusterau gweddïo. I lawer o gyfranogwyr, dyma'r tro cyntaf iddynt gael triniaeth maldod. Dywedodd un gofalwr fod tylino ei phen wedi helpu i ryddhau straen yr oedd wedi cadw i mewn dros flynyddoedd o ofalu, ac roedd y profiad wedi ei gadael yn ei dagrau.
Drwy'r Cynllun Seibiant Byr, mae Age Connects Torfaen yn cefnogi gofalwyr mewn ffyrdd sy'n parchu disgwyliadau diwylliannol o ran heneiddio, rolau teuluol a chyfrifoldeb cymunedol – gan helpu i sicrhau bod seibiannau'n briodol, yn urddasol ac yn cyfoethogi. Mae hyn yn adlewyrchu thema perthyn Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, sy’n dangos bod gofalwyr yn fwy tebygol o ymgysylltu pan fydd cymorth yn adlewyrchu pwy ydyn nhw.
Mae Wythnos Cydraddoldeb Hiliol yn ein hatgoffa bod cynhwysiant yn gofyn am ddysgu a gwrando parhaus. Ar gyfer y Cynllun Seibiant Byr, mae'n atgyfnerthu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau y mae eu cymunedau'n ymddiried ynddynt ac sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb yn ymarferol, nid mewn egwyddor yn unig.
Wrth i ni ddathlu Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, mae'r Cynllun Seibiant Byr yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r canlynol:
Ledled Cymru, mae ein darparwyr yn parhau i gael gwared ar rwystrau, meithrin ymddiriedaeth a chreu lle i orffwys a chysylltu. Diolch i'r holl sefydliadau hynny sy'n helpu i sicrhau bod gofalwyr o bob cefndir yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu parchu a'u cefnogi.