Sul y Mamau: Gorffwys, Canfod Cryfder a Chreu Cysylltiadau drwy’r Cynllun Seibiant Byr

post image 1
Y wers fwyaf i fi yw rhoi caniatâd i fi fy hun adfer fy egni a delio ag euogrwydd mam.

Mae Sul y Mamau yn gyfle i gydnabod y menywod ledled Cymru sy’n rhoi cymaint ohonyn nhw eu hunain bob dydd, gan gynnwys y miloedd o famau sy’n rhoi gofal di-dâl i blant, partneriaid, rhieni ac anwyliaid.

Mae gan Gymru ganran uwch o ofalwyr di-dâl na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac mae llawer o famau’n ei chael hi’n anodd cydnabod eu bod nhw’n ofalwyr, hyd yn oed, a hynny oherwydd bod gofalu’n rhan mor annatod o fod yn fam.

Mamau’n ofalwyr

Dyma Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Gall mamau fod yn llai tebygol nag eraill o gydnabod ac ystyried eu hunain yn ofalwyr. Mae llawer ohonyn nhw wedi ymlâdd, dan straen ac yn cael trafferth gyda’u lles eu hunain – yn gorfforol ac yn feddyliol.

I lawer o famau, gweithred o gariad yw gofalu, ond mae hefyd yn achosi blinder corfforol, mae’n anodd yn emosiynol ac mae’n aml yn brofiad ynysig.

Mae mamau’n aml yn disgrifio’r teimlad o ‘fynd, mynd, mynd’ bob awr o’r dydd, gyda ‘phrin dim amser i anadlu’ - heb sôn am dreulio amser yn gofalu amdanyn nhw eu hunain. Gall treulio cyfnodau byr o amser yn dod atyn nhw eu hunain, drwy fynd am dro neu gwrdd â ffrind, deimlo’n amhosib.

 

 

Doeddwn i ddim yn sylweddoli cyn lleied oedd ar ôl gen i i'w roi nes i mi gael cyfle i arafu o’r diwedd.

               Gofalwr gyda Chennin Pedr

Effaith niweidiol

Mae llawer o famau’n ceisio cydbwyso sawl rôl - gweithio’n rhan-amser rhwng y gofynion gofalu, ymdopi ag apwyntiadau meddygol, cydlynu â thimau’r ysgol neu ofal cymdeithasol, a chefnogi perthnasau hŷn a brodyr a chwiorydd hefyd weithiau. Gall effaith hyn oll, gyda’i gilydd, arwain at iechyd corfforol a meddyliol gwael, straen ariannol ac ynysu cymdeithasol.

Pam mae Seibiant Byr yn Gwneud Gwahaniaeth

Dyna pam mae’r Cynllun Seibiant Byr, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gydlynu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mor bwysig. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i ofalwyr di-dâl gael seibiant ystyrlon sydd wedi’i deilwra ar eu cyfer nhw ac sy’n cyd-fynd â phatrwm eu bywyd. I lawer o famau, mae’r cyfnodau hyn o orffwys a chreu cysylltiadau yn brofiad trawsnewidiol.

Fe gyrhaeddais i’n teimlo’n flinedig ac wedi ymlâdd... ac fe adewais i’n teimlo’n hollol wahanol.

               Gofalwr gydag InclusAbility

Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn rhoi caniatâd i famau roi nhw eu hunain yn gyntaf - am y tro cyntaf ers blynyddoedd, yn aml iawn. Does dim rhaid i seibiant fod yn benwythnos i ffwrdd; gall fod yn rhywbeth bach ond ystyrlon: taleb llesiant, ambell awr mewn lle sy’n arbennig i'r fam, neu weithgaredd grŵp syml.

Mae’r therapïau holistaidd yn gwneud gwahaniaeth go iawn! Wrth adael, rwy’n teimlo fy mod i wedi dadflino ac yn barod i fynd eto.

               Gofalwr gyda Techtivity

Caniatâd i gael seibiant

Mae “euogrwydd mam” yn deimlad cyfarwydd i lawer o famau, ond i’r rheini sy’n ofalwyr mae poeni’n gallu gwneud yr euogrwydd yn waeth - poeni am adael eu plentyn, poeni a fydd pethau’n “mynd o chwith”, a phoeni a yw hi’n iawn iddyn nhw gamu’n ôl o gwbl.

Gall seibiant byr feddalu’r llais mewnol hwnnw. A phan fyddan nhw’n cael seibiant, mae'r manteision yn lledaenu fel tonnau i bob cyfeiriad.

Fe wnaeth un rhiant grisialu hyn yn berffaith ar ôl cymryd rhan mewn seibiant Campfire Cymru:

“Y wers fwyaf i fi yw rhoi caniatâd i fi fy hun adfer fy egni a delio ag euogrwydd mam.”

Mae rhieni sy’n ofalwyr yn aml yn dweud eu bod yn teimlo’n llai pryderus, yn fwy optimistaidd, ac mewn gwell cyflwr i ymdopi pan fyddan nhw’n dychwelyd adref.

Tawel ac ymlaciol... fe ges i amser i feddwl am sefyllfaoedd gartref ac i ddatrys ambell bryder oedd ar fy meddwl. 

               Gofalwyr gyda’r Behaviour Support Hub

“Roeddwn i’n teimlo’n llai unig... weithiau, y cyfan sydd ei angen i allu gweld y ffordd ymlaen yw cael seibiant.”  Gofalwr gyda’r All Wales Forum

Amser i chi’ch hun

Mae dyddiau rhai mamau yn cael eu diffinio gan ofynion cyflyrau iechyd, therapïau, heriau ymddygiad, neu drefniadau gofal cymhleth ac felly, iddyn nhw, mae cael rhywbeth sydd ar eu cyfer nhw’n unig yn wirioneddol ystyrlon. Mae’n adfer ymdeimlad o bwy ydyn nhw - nid ar wahân i’w dyletswyddau gofalu, ond ochr yn ochr â hynny.

Fe ges i heddwch, ac amser i fi fy hun... rwy’n teimlo’n fwy parod i ddychwelyd at y gofalu nawr.

Gofalwr gyda Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot

Dychwelyd yn llawn egni newydd

Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn cydnabod y llafur emosiynol, yr wyliadwriaeth barhaus, a’r cariad sy’n sail i’r holl ofalu. Mae’n rhoi cyfle i famau orffwys heb euogrwydd, adfer gwydnwch, a dychwelyd at eu teuluoedd gan deimlo’n fwy cadarn, yn ysgafnach ac â mwy o gefnogaeth.

Mae bod yn fam ac yn ofalwr yn gofyn am gryfder, amynedd a chalon. Ond ddylai neb orfod ymdopi â hynny ar ei ben ei hun. Diolch i’r Cynllun Seibiant Byr, mae mwy o famau ledled Cymru yn cael rhywfaint o amser iddyn nhw eu hunain.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences