Bydd Gweithredu dros Blant yn rhoi cyfle i ofalwyr ifanc o Ynys Môn a Gwynedd gael gafael ar ficro-grantiau o hyd at £50 i’w defnyddio i fynd ar seibiant byr sy’n gweddu i’w hanghenion a’u diddordebau nhw. Mae’r prosiect yn anelu at wneud mwy i gyrraedd gofalwyr ifanc o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig trwy ddigwyddiadau cymunedol a gwaith hyrwyddo mewn ysgolion, gan gynnig y cyfle i ofalwyr ifanc cudd gael yr un gefnogaeth a seibiannau byr pwrpasol â’u cyfoedion.
Bydd Ymarferydd Cefnogi Teuluoedd yn cynorthwyo teuluoedd a gofalwyr ifanc i lenwi ffurflen gais am Ficrogrant i’w helpu i gael gafael ar y gefnogaeth bersonol, hyblyg a chynhwysol hon yn ddidrafferth. Gall gofalwyr ifanc yn Ynys Môn a Gwynedd gysylltu â Katie Roberts, Ymarferydd Cefnogi Teuluoedd, i glywed mwy am y cyfle hwn ac i wneud cais.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais am y seibiant hwn, siaradwch yn uniongyrchol ag Gweithredu dros Blant – Gwynedd & Ynys Môn
Cysylltwch:
Katie Roberts, Ymarferydd Cefnogi
Ebost:
katie.roberts2@actionforchildren.org.uk
ynysmonyoungcarers@actionforchildren.org.uk
Gwefan:
www.actionforchildren.org.uk
Ffôn:
01248 353095
Mae Gweithredu dros Blant yn diogelu a chefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd bregus. Maen nhw’n gwneud hyn trwy ddarparu gofal a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Maen nhw’n gwneud yn siŵr fod lleisiau plant yn cael eu clywed ac yn ymgyrchu i gael gwelliannau parhaus i’w bywydau.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.