Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ac wedi cofrestru â Phrosiect Cymorth i Ofalwyr Rhondda Cynon Taf
Amrywiol – dyma'r dewisiadau:
Dewis 1
Taleb theatr gwerth £50 (i brynu tocynnau o unrhyw theatr yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys Theatr y Parc a’r Dâr yn Nhreorci neu’r Colisëwm yn Aberdâr).
Dewis 2
Taleb sba gwerth £75 (i dreulio diwrnod sba yng Ngwesty a Sba Nant Ddu, CF48 2HY).
Dewis 3
Taleb Ystafelloedd Dianc gwerth £40 (i fynd tuag at brofiad yn y lleoliad newydd hwn yn Nhrefforest, sy’n cynnwys 4 ystafell newydd).
Dewis 4
‘Hamper Pampro’ gwerth hyd at £30 (pecyn o eitemau pampro moethus a fydd yn cael ei ddanfon i’ch drws).
Dewis 5
Te Prynhawn gwerth hyd at £35 (pecyn parod a fydd yn cael ei ddanfon i’ch drws, i’w fwyta ar unwaith).
Mae Prosiect Cymorth i Ofalwyr Rhondda Cynon Taf yn cynnig gwybodaeth, cyngor, gweithgareddau am ddim, a mynediad at gynlluniau penodol i ofalwyr i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn. Rhaid i ofalwyr fod yn byw yn ardal RhCT, neu’n gofalu am rywun sydd angen cymorth ychwanegol bob dydd ac sy’n byw yn RhCT.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.