Bydd y Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn darparu cyfleoedd seibiannau byr ar gyfer oedolion sy’n ofalwyr ar draws Ynys Môn, Conwy a Gwynedd. Caiff y prosiect ei gyflwyno gan swyddog pwrpasol fydd yn cefnogi ceisiadau gan ofalwyr a Swyddog Cymunedol er mwyn targedu a chefnogi gofalwyr tangynrychioledig, a gofalwyr hŷn mewn ardaloedd gwledig i fanteisio ar gyfleoedd seibiannau byr sydd wedi’u targedu at eu hanghenion unigol nhw.
Gall gofalwyr ofyn am arian ar gyfer seibiant o’u dewis (i fyny at £300).
Gall gofalwyr gysylltu ar y ffôn, e-bost neu trwy wefan y mudiad i wneud cais am arian. Bydd y Swyddogion Cefnogi Gofalwyr yn siarad â gofalwyr i drafod eu dymuniadau a’u cefnogi i allu gwneud cais.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais am y gwyliau hyn, siaradwch yn uniongyrchol â'r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.
Gwefan:
www.carersoutreach.org.uk
Ffôn:
01248 370797
Mae’r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn elusen leol sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gefnogi oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yn Ynys Môn, Conwy a Gwynedd, gan ddarparu cefnogaeth unigol, cefnogaeth arbenigol, a chyfleoedd cymdeithasol. Maent yn Bartner Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen genedlaethol fawr sy’n cynnig help ymarferol ac emosiynol i ofalwyr.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.