Trwy nifer o ddewisiadau seibiannau byr gwahanol, mae prosiect Amser Gyda’n Gilydd Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gweithio’n bennaf i gefnogi oedolion sy’n ofalwyr di-dâl, ac yn enwedig felly’r gofalwyr hynny sy’n darparu dros 50 awr o ofal a chefnogaeth bob wythnos. Mae’r mudiad yn anelu at ddarparu seibiannau byr personol, hyblyg ac ymatebol a bydd yn arbrofi gyda grwpiau gweithgareddau newydd ar gyfer y gofalydd a’r sawl y gofelir amdanynt yn ardaloedd mwy gwledig Sir Gaerfyrddin. Bydd y gefnogaeth yn canolbwyntio ar gryfderau’r gofalwyr a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt a bydd sgyrsiau’n hwyluso seibiannau byr wedi’u teilwra er mwyn gwella llesiant gofalwyr, gwella gwytnwch a helpu cynnal perthnasoedd gofalgar.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais am y seibiant hwn, siaradwch yn uniongyrchol ag Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
Cysylltwch:
Vanessa Buckler
Ebost:
info@ctcww.org.uk
Gwefan:
www.ctcww.org.uk
Ffôn:
03000 200002
Mae Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cyf yn elusen gofrestredig ac mae ganddynt swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Cheredigion. Maent yn Bartner Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen genedlaethol fawr sy’n cynnig help ymarferol ac emosiynol i ofalwyr.
Mae’r mudiad yn darparu nifer o wasanaethau gwahanol sy’n cael eu teilwra ar gyfer anghenion y gofalydd unigol a’u teulu, gan weithio gyda gwasanaethau cymunedol eraill.
Mae Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn fudiad gwirfoddol arbenigol sy’n darparu cefnogaeth i ofalwyr, gan roi amser iddyn nhw fod eu hunain. Maent wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.