Trwy eu prosiect Amser Imi mae NEWCIS yn ceisio cefnogi gofalwyr o bob oed trwy nifer o ddewisiadau i gymryd seibiant pwrpasol sy’n cyfateb i’w hanghenion ac yn eu helpu i gynnal eu rôl ofalu. Mae Micrograntiau ar gael i alluogi gofalydd i gymryd seibiant am ychydig oriau yn y sinema neu i fynd allan am bryd bwyd. Mae seibiannau tri diwrnod hirach mewn llety gwyliau o’u dewis hefyd ar gael, ac mae gofal seibiant hefyd ar gael. Gall gofalwyr gael seibiant ar eu pen eu hunain neu gyda’r person maen nhw’n gofalu amdanynt neu aelodau eraill y teulu er mwyn gwella eu hiechyd a’u llesiant. Gall gofalwyr ifanc fanteisio ar Ficrograntiau a chyfnodau preswyl gyda’u cyfoedion.
*Gofalwyr ifanc yn Sir y Fflint yn unig.
Ar yr amod fod llety ar gael. Defnyddir meini prawf cymhwysedd ac maent yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
Mae Pontio'r Bwlch Gwent (BTGG) yn cynnig seibiant hyblyg ac ymatebol i ofalwyr di-dâl o'u rôl gofalu. Gall gofalwyr cymwys ddewis o lyfryn o wasanaethau i sicrhau bod y seibiant yn diwallu eu hanghenion, o aelodaeth hamdden a gweithgareddau awyr agored, i wasanaethau domestig a gwasanaethau eistedd gyda phobl.
Cynigir BTGG i ofalwyr sy'n bodloni meini prawf y gwasanaeth yn dilyn Asesiad o Anghenion Gofalwyr gyda'u hawdurdod lleol.
Bydd Gofalwyr Di-dâl yn cael sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' i gael mynediad at y cynllun Pontio'r Bwlch. Yna, rhoddir taleb iddynt i gael seibiant byr/cyfnod encilio yn Sir Ddinbych pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais am y seibiant hwn, siaradwch â NEWCIS yn uniongyrchol.
Ffôn: 01352 752525
www.newcis.org.uk
Pontio'r Bwlch Gwent (BTGG)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
Oedolion sy'n Ofalwyr: 01495 315700
Gofalwyr Ifanc: 01495 355584
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
Oedolion sy'n Ofalwyr: 0808 100 2500
Gofalwyr Ifanc: 0808 100 1727
Rhwydwaith Gofalwyr Sir Fynwy:
Trefynwy/Wysg/Rhaglan:01600 773041
Y Fenni: 01873 735885
Cas-gwent/Cil-y-coed:01291 635666
Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy:07970 166975 (10am-3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Cyngor Dinas Casnewydd:
Oedolion sy'n Ofalwyr: 01633 656656
Gofalwyr Ifanc: 07729 445503
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen:
01495 762200
Mae NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru) yn darparu llinell bywyd i ofalwyr o bob oed a chefndir ac mae’n cynnig dewis o wasanaethau wedi’u teilwra ar gyfer anghenion unigol.
Mae gwasanaethau’r mudiad yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol a chynllun seibiant arobryn, Sgyrsiau Beth sy’n Bwysig (asesiadau o anghenion gofalwyr), cynghori, cyrsiau hyfforddiant, digwyddiadau, grwpiau cyd-gefnogi, cefnogaeth gan feddygon teulu ac ysbytai a llawer iawn mwy. Maent yn Bartner Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen genedlaethol fawr sy’n cynnig help ymarferol ac emosiynol i ofalwyr.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.