Mae Elusen Blant Honeypot yn darparu ystod o seibiannau byr i gefnogi gofalwyr ifanc ledled Cymru i gael seibiant o’u rolau gofalu a gwella eu hiechyd a’u llesiant. Mae’r seibiannau’n cynnwys cyfnodau preswyl lle y gall gofalwyr ifanc gael hwyl gyda’u cyfoedion, mynediad at Ficrograntiau er mwyn cael seibiant gyda ffrindiau neu aelodau’r teulu a dewis o deithiau dydd.
Yr unig ffordd o gael gafael ar wasanaethau Honeypot yw trwy atgyfeiriadau gan asiantwyr o fewn y rhwydwaith lles plant yng Nghymru, sy’n cynnwys Timau Gwaith Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol, Meddygon Teulu, Nyrsys Iechyd Ardal, Swyddogion Lles Ysgolion, a Phenaethiaid Ysgolion a llawer mwy. Yn ogystal ag asesiadau o anghenion y gofalwyr ifanc y mae Honeypot yn eu derbyn gan sefydliadau atgyfeirio, mae Honeypot yn cynnal eu hasesiadau anghenion eu hunain.
Mae’r mudiad yn anelu i deilwra gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigol gofalwyr ifanc. Mae Honeypot yn canolbwyntio’n llwyr ar ofalwyr ifanc rhwng 5 a 18 oed, grŵp sy’n guddiedig ac nad oes hanner digon o ddarpariaeth ar ei gyfer.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais am y seibiant hwn, siaradwch yn uniongyrchol ag Elusen Blant Honeypot.
Cysylltwch:
Jenny Ray
Ebost:
info@honeypot.org.uk
Gwefan:
www.honeypot.org.uk
Ffôn:
02076 022631
Sefydlwyd Elusen Blant Honeypot 30 mlynedd yn ôl yn Swydd Hampshire, mewn cartref seibiant preswyl yn Swydd Hampshire, i gefnogi plant ifanc bregus o ganol dinasoedd na chawsant erioed y profiad o seibiant preswyl yn hyfrydwch cefn gwlad. Gan fod llawer o’r plant hyn yn ofalwyr ifanc, ymrwymodd Honeypot i ganolbwyntio ar a chynnig cefnogaeth gyson i ofalwyr ifanc o 28 mlynedd yn ôl hyd heddiw. Agorodd Honeypot eu hail gartref preswyl ym Mhen y Bryn, ger Y Drenewydd 10 mlynedd yn ôl, a’r trydydd cartref yn Nwyrain Ayrshire lai na blwyddyn yn ôl. O fod yn fudiad un gwasanaeth, mae Honeypot wedi datblygu’r gallu i ddarparu dewis o ddeg gwasanaeth cefnogi effeithiol iawn ar gyfer gofalwyr ifanc, sy’n diwallu nifer o’u hanghenion. Erbyn hyn mae’n cefnogi dros 3,000 o ofalwyr ifanc bob blwyddyn ledled gwledydd Prydain, a daw 1,000 o Gymru. Maent yn Bartner Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen genedlaethol fawr sy’n cynnig help ymarferol ac emosiynol i ofalwyr.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.