Mae ein corau cymunedol yng ngogledd Caerdydd, de Caerdydd ac ym Mro Morgannwg yn cwrdd bob wythnos am 2 awr. Mae’r sesiynau hyn ar gael yn rhad ac am ddim, ac yn cael eu cynnal mewn lleoliadau sy’n ystyriol o ddementia. Does dim angen atgyfeiriad.
Mae'r sesiynau canu croesawgar yn cynnig profiad a rennir lle, yn anad dim, mae pawb yn cael bod yn ‘gantorion’. Maent yn gyfle i ofalwyr gael seibiant o'u rôl gofalu gyda'u hanwyliaid.
Dydyn ni ddim yn defnyddio copïau, a hynny er mwyn peidio â rhoi’r rhai sydd wedi colli’r gallu i ddarllen/adnabod geiriau dan anfantais. Mae’r sesiynau gyfle i ganolbwyntio ar rywbeth gwahanol i heriau dyddiol, apwyntiadau meddygol a dyletswyddau gofalu.
Mae gan bob lleoliad fynediad i bobl anabl a thoiledau hygyrch. Mae’r gwasanaeth cymorth hwn ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, a’u teuluoedd/ gofalwyr.
Ariennir y prosiect hwn gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol - Cardiff and Vale/C3SC
Sadie Walters: 02922 362064
Mae Forget-me-not Chorus (FMNC) yn defnyddio pŵer canu i gefnogi’r rhai sy’n byw gyda dementia, neu’n byw gyda rhywun sydd â dementia. Mae sesiynau cynhwysol – mewn cartrefi gofal, yn y gymuned, mewn ysbytai ac ar-lein – yn grymuso ac yn cysylltu pobl mewn ffordd unigryw a gwerthfawr.
Mae ein dull arloesol yn defnyddio cerddoriaeth fel cyfrwng ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu ystyrlon yn y presennol, ac nid fel cyfrwng i hel atgofion yn unig. Drwy ysbrydoli pawb i gymryd rhan hyd eithaf eu gallu, mae ein gwaith yn ailgysylltu cymunedau, yn gwella llesiant ac yn dangos pŵer trawsnewidiol cerddoriaeth.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.